Next Steps

Following-on from the  Food Values research we conducted last year we have now been granted funding from Bangor Uni to further disseminate and apply what we have learnt so far.

We have worked largely with community groups, NGO’s and food educationalists to date but now aim to engage more widely with farmers, industry and government.

Can this approach be useful to you too? Our dissemination activities are not just telling people what we found, but helping them to unpack specific issues they are concerned about. So please get in touch to discuss ideas: s.wynne-jones [at] bangor.ac.uk

Food Values was an action research project to explore the utility of values thinking for food educationalists. It was not a social-psychology experiment on whether values work or not to create behaviour change – that research already exists with encouraging findings. Hence we aimed to consider how you could put that into practise with different groups on the ground.

We wanted to know how could it work in different scenarios. How can you apply the values principles to specific contexts? What do practitioners do differently as a consequence of using this framework?

We were informed by evaluations of behaviour change and participatory approaches, aiming to be ethical and empowering, not just looking for ‘efficacy’ of change prompts. But considering, instead, what sorts of citizens and society are we producing.

Our concern is not just how to ‘message’ – but how practical interventions (community meals and events, pop-up restaurants, festivals and recipe books) embody different values and reinforce them.

Reminder on the Science:

  •         Values are like muscles – they get stronger the more you use and apply them. They are not fixed! It is important to reflect on what we value & whether we are supporting this in society.
  •         Some groups of values are mutually reinforcing but others are work against each other.
  •         We all hold ALL values, but the relative balance is what we are interested in.
  •          It is critical to be aware of difference between something we value and a characteristic we use to achieve a value: e.g. power and success as means to an end – or ends in themselves?
  •         There is a misconception that people don’t care about bigger-than-self issues; that we are all self-interested and the best way to engage people is to appeal to  self-interested traits. This is not true. To support wider civic engagement we need to celebrate and acknowledge that people are compassionate and not solely self-interested.

 

Camau Nesaf Gwerthoedd Bwyd

Yn dilyn yr ymchwil Gwerthoedd Bwyd a gynhaliwyd gennym y llynedd rydym wedi derbyn cyllid gan Brifysgol Bangor i ledaenu a chymhwyso beth rydym wedi ei ddysgu hyd yn hyn.

Rydym wedi gweithio’n galed gyda grwpiau cymunedol, cyrff anllywodraethol ac addysgwyr bwyd hyd yn hyn ond nawr rydym yn anelu at weithio mwy gyda ffermwyr, diwydiant a’r llywodraeth.

A all y dull hwn fod yn ddefnyddiol i chi hefyd? Nid dim ond dweud wrth bobl beth rydym wedi dod o hyd iddo mae ein gweithgareddau lledaenu yn ei wneud, ond eu helpu i ddadbacio materion penodol maent yn pryderu amdanynt. Felly cysylltwch i drafod syniadau: s.wynne-jones [at] bangor.ac.uk

Roedd Gwerthoedd Bwyd yn broject ymchwil gweithredu’n archwilio defnyddioldeb meddwl am werthoedd i addysgwyr bwyd. Nid arbrawf seicoleg-cymdeithasol ar p’un a yw gwerthoedd yn gweithio neu beidio i greu newid mewn ymddygiad ydoedd – mae’r ymchwil honno’n bodoli’n barod, gyda chanfyddiadau calonogol. Oherwydd hynny roeddem yn anelu at ystyried sut y gellir rhoi hynny ar waith gyda gwahanol grwpiau ar lawr gwlad.

Roeddem eisiau gwybod sut y gallai weithio mewn gwahanol sefyllfaoedd. Sut gallwch chi gymhwyso egwyddorion gwerthoedd i gyd-destunau penodol? Beth mae ymarferwyr yn ei wneud yn wahanol o ganlyniad i ddefnyddio’r fframwaith hwn?

Roeddem yn cael gwybodaeth gan werthusiadau newid ymddygiad a dulliau cyfranogol, gan anelu at fod yn foesegol a grymusol, nid dim ond chwilio am ‘effeithiolrwydd’ ysgogiadau i newid. Ond gan ystyried, yn lle, pa fath o ddinasyddion a chymdeithas rydym yn eu cynhyrchu.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw nid dim ond sut i greu negeseuon – ond sut y gall ymyriadau ymarferol (prydau a digwyddiadau cymunedol, bwytai unnos, gwyliau a llyfrau ryseitiau) ymgorffori gwahanol werthoedd a’u hatgyfnerthu.

I’ch atgoffa o’r wyddoniaeth:

  • Mae gwerthoedd fel cyhyrau – maent yn cryfhau po fwyaf y defnyddiwch nhw. Nid ydynt yn sefydlog. Mae’n bwysig adfyfyrio ar yr hyn yr ydym yn rhoi gwerth arno a ph’un a ydym yn cefnogi hyn mewn cymdeithas.
  • Mae rhai grwpiau o werthoedd yn atgyfnerthu ei gilydd ond mae eraill yn gweithio yn erbyn ei gilydd.
  • Mae gan bawb y gwerthoedd I GYD, ond yn y cydbwysedd perthynol y mae ein diddordeb ni.
  • Mae’n hollbwysig ein bod yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng rhywbeth yr ydym yn rhoi gwerth arno a nodwedd a ddefnyddiwn i gyrraedd gwerth: e.e. grym a llwyddiant fel ffordd o gyflawni rhywbeth – neu ai grym a llwyddiant yw’r hyn y ceisir ei gyflawni?
  • Mae yna gamdybiaeth nad yw pobl yn poeni am faterion sy’n fwy na nhw’u hunain; ein bod i gyd yn hunanol ac mai’r ffordd orau o ymwneud â phobl yw apelio at nodweddion hunanol. Nid yw hyn yn wir. Er mwyn cefnogi ymwneud cymdeithasol ehangach mae angen inni ddathlu a chydnabod bod pobl yn drugarog ac nad ydynt yn gwbl hunanol.

 

 

 

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s